Sioe Pontargothi - Dydd Sadwrn Mai 27, 2017Sioe Pontargothi

Hanes y Sioe

Cyflwyniad i lyfr “O Fewn y Filltir Sgwâr” gan John Howell
Hanes Sioe Amaethyddol Pontargothi 1898 – 1998

ar06-pontargothiMae’r cofnod hanesyddol hwn a olygwyd mor drylwyr gan Mr John Howell, yn bwrw golwg ar ddatblygiad digwyddiad blynyddol sydd wedi rhoi Pontargothi ar fap y sioeau amethyddol yn ystod y ganrif ddiwethaf. Mae sioe Pontargothi yn unigryw am mai hon yw sioe gynta’r tymor yn sir Gâr bob blwyddyn, ac efallai yng Ngymru gyfan. Dyma lwyfan i’r bridwyr a’r arddangoswyr, a chyfle iddynt edrych ar safon y gwrthwynebwyr, ac i asesu eu safon a’u gobeithion hwy eu hunain yn nhermau cynnyrch a stoc ar gyfer gweddill sioeau’r tymor. Fel cymdeithas yr ydym yn ddyledus tu hwnt i John am gasglu a chofnodi deunydd sydd mor ddiddorol, ac yn rhywbeth y bydd aelodau a chyn-aelodau yn ei drysori.

Mae plwyfolion Llanegwad a’r plwyfi cyfagos wedi llwyddo am gan mlynedd i drefnu digwyddiad pwysig ym mhentref Pontargothi, ac yn un sy’n llwyddo i ennyn diddordeb a chefnogaeth cylch eang. Dros y blynyddoedd mae’r sioe wedi llwyddo i ddenu digon o gefnogaeth ac ewyllys da, yn wirfoddolwyr ac yn gymorth ariannol gan y trogolion lleol – dyna pam y mae gennym heddiw ddigwyddiad llwyddiannus a threfnus. O ganlyniad cysylltir Pontargothi yn syth gyda’r sioe, syniad a fwriadwyd ar y cychwyn i wella safon stoc a chynnyrch y fferm, ac i roi hwb i fywyd cymdeithasol a diwylliannol y fro.

Mae hyn yn gyffredin â phob ardal arall wedi gweld llawer o newidiadau dros 100 mlynedd diwethaf mewn arferion ffermio. Ceffylau wedi rhoi ffordd i tractorau, bridiau o bob math o stoc y fferm wedi cael eu gwella a bridiau wedi cael eu cyflwyno. Rydym wedi gweld y defnydd cynyddol o wrtaith, y defnydd o blaladdwyr, a mesurau rheoli cemegol chwyn wedi dod yn soffistigedig iawn, ond y newid mwyaf oll yn fy marn i wedi bod yn y ffaith bod yn fy nyddiau cynnar, ffermio yn cael ei ystyried yn ffordd o fyw , ffermio bellach yn realiti economaidd caled. Mae’r fferm fechan wedi diflannu bron a chyda ei fod wedi mynd y posibilrwydd o gam cyntaf i Ffermwyr Ifanc ar yr ysgol ffermio.

Yma, fel ymhobman arall, mae’r byd amaethyddol wedi gweld nifer fawr o newidiadau a datblygiadau yn ystod y can mlynedd diwethaf. Daeth y tractor i gymryd lle’r ceffylau; mae safon y bridio wedi gwella a gwelwyd cyflwyno bridiau newydd. Cynyddodd y defnydd o wrtaith, pla-laddwyr a mesurau o ddefnyddio chwyn-laddwyr; ond y newid mwyaf yn fy marn i yw bod ffermio yn y dyddiau cynnar yn ffordd o fyw, ond erbyn hyn mae’n frwydr economiadd. Gyda thristwch y gwelwn y ffermydd bach yn diflannu a chyda hwy gobaith ffermwyr ieuanc o gychwyn ar yrfa amaethyddol

Fel cymdeithas, yr ydym yn ddyledus i’r holl aelodau ddoe a heddiw am eu cefnogaeth. Diolchwn i’r holl gyn-gadeiryddion, trysoryddion ac ysgrifenyddion, nifer ohonynt yn rhan annatod o hanes y sioe, am bob cyfraniad ar hyd y blynyddoedd. Mae’r gair olaf yn mynd i ganmol gwaith aruthrol Pwyllgor y Merched, sydd bob amser yn ysgwyddo baich gweithgaredd y pafiliwn, gyda graen a brwdfrydedd.

Bryan Raymond – Cadeirydd

Yn 1972 cychwynwyd adran y Merched o Gymdeithas Amaethyddol Pontargothi. Cartref cyntaf yr adran oedd pabell fechan, ond bellach mae wedi symud i’r pafiliwn newydd. Dros y blynyddoedd mae nifer y cystadlaethau a’r cystadleuwyr wedi cynyddu’n sylweddol. Er mai ychydig mewn nifer yw pwyllgor y merched, mae’n bwyllgor gweithgar dros ben.

Mae’n fraint i mi fod yn Gadeiryddes y pwyllgor hwn ym mlwyddyn canmlwyddiant y Gymdeithas. Ar ran y Merched carwn ddymuno i’r Gymdeithas a’i holl weithgareddau bob llwyddiant am y can mlynedd nesaf.

Jacqueline Hinds – Cadeiryddes Pwyllgor y Merched